Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru)
Ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cyumdeithasol a Chwaraeon am Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru)

 

1.      Cyflwyniad

1.1  Mae Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) yn dwyn ynghyd y prif enwadau Cristnogol yng Nghymru, a nifer o fudiadau Cristnogol eraill, i gyd-weithio ar faterion sydd o ddiddordeb iddynt oll. Mae gan yr 17 aelod enwad ryw 165,000 o oedolion sy’n aelodau ymhob cymuned ar draws Cymru, a chyswllt rheolaidd â llawer mwy o oedolion, plant a phobl ifainc. Gellir gweld rhestr lawn o’r holl enwadau a mudiadau sy’n aelodau yn: http://www.cytun.cymru/ni.html  

1.2  Byddem yn croesawu cyfleoedd pellach i ymwneud â gwaith y Pwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at: Parch. Gethin Rhys, Swyddog Polisi Cytûn, yn XXXXXXXXXXXXXXX. Gellir cyhoeddi’r ymateb hwn yn llawn.

 

2.      Egwyddorion cyffredinol y Bil

2.1  Mae gan eglwysi Cristnogol yng Nghymru hanes hir o annog a chefnogi deddfwriaeth a luniwyd er cyfyngu ar werthiant anghyfrifol ar alcohol, gan ddechrau gydag un o’r deddfau penodol Gymreig cyntaf yn y cyfnod modern, sef Deddf Cau’r Tafarnau ar y Sul (Cymru) 1881. Er bod rhai Cristnogion yn argymell llwyrymwrthod ag alcohol, mae’r rhan fwyaf yn cefnogi mesurau o’r fath er mwyn cyfyngu ar ddefnydd anghyfrifol ohono, yn hytrach nag yn gam tuag at wahardd pob defnydd.

2.2  Tra bod Deddf 1881 wedi targedu tafarndai, yn y blynyddoedd diweddar mae eglwysi Cristnogol wedi sefydlu perthynas fwy cadarnhaol gyda pherchnogion a deiliaid eiddo mewndrwyddedig, yn bennaf trwy waith grwpiau Bugeiliaid y Stryd, Angylion y Stryd a Night Light mewn llawer rhan o Gymru, sy’n gweithio er lleihau’r niwed a achosir gan or-yfed alcohol o fewn economi’r nos. Mae’r grwpiau hyn yn aml hefyd yn rhan o’u Partneriaeth Diogelwch Cymunedol. Profiad y grwpiau hyn yw bod yfed alcohol mewn mannau mewndrwyddedig dipyn yn llai niweidiol na phrynu alcohol mewn siopau ag all-drwydded, a yfir wedyn ar y stryd neu mewn eiddo preifat lle nad oes goruchwyliaeth na chefnogaeth ar gael. Mae monitro ymddygiad cwsmeriaid gan ddeiliaid trwydded a staff wrth y drws a gwaith yr heddlu yn monitro’r mangreoedd hyn, yn ogystal â gwaith Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a’n gwirfoddolwyr ni, oll wedi helpu lliniaru’r niwed a achosir gan yfed alcohol mewn tafarndai a chlybiau. Roedd Cytûn yn falch o allu tynnu ar brofiad grwpiau Cristnogol megis Bugeiliaid y Stryd wrth gyfrannu at ddatblygu Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Economi’r Nos yng Nghymru.[1] Nodwn na fydd fawr o effaith ar dafarndai a chlybiau gan y ddeddfwriaeth newydd, a chroesawn yr effaith bosibl y trosglwyddir peth gwerthiant o fangreoedd ag all-drwydded i rai â mewndrwydded. Gobeithiwn hefyd weld lleihad yn y duedd i “gyn-lwytho” alcohol rhad cyn mynd allan i glwb, gan olygu y bydd cwsmeriaid yn llai tebygol o gyrraedd wedi meddwi eisoes.

2.3  Mae ein haelod eglwys, Byddin yr Iachawdwriaeth, wedi cefnogi ers blynyddoedd gosod isafbris ar gyfer alcohol, ac mae wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i chi a chyflwyno tystiolaeth lafar ar Ragfyr 12. Mae dwy eglwys sy’n aelod, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig a’r Eglwys Fethodistaidd, wedi cyflwyno ymateb ar y cyd, ac mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru hithau wedi ymateb. Mae’r holl ymatebion hyn yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Nid yw’r ymateb hwn yn anelu at ail-adrodd y dadleuon manwl a gyflwynwyd gan ein haelodau.  

2.4  Yn dilyn ymgynghori eang trwy swyddogion eglwys a chymdeithas ein haelod eglwysi a mudiadau, nid ydym yn ymwybodol o unrhyw aelodau o Cytûn a fyddai’n gwrthwynebui egwyddorion y ddeddfwriaeth hon.

2.5  Mae nifer o elusennau arbenigol a sefydlwyd neu a gefnogir gan ein haelod eglwysi hefyd yn cefnogi egwyddorion y Bil. Er enghraifft, mae Quaker Action on Alcohol and Drugs, a gysylltir yn agos â Chymdeithas y Cyfeillion, sy’n aelod o Cytûn, yn dweud a ganlyn:
The affordability of alcohol has dropped significantly relative to income in the last thirty years, whilst alcohol-related health problems have risen. The Chief Medical Officer, Royal College of Physicians, Alcohol Concern and many health bodies that have united in the Alcohol Health Alliance, have all concluded that a minimum price per unit of alcohol would be one of the most effective ways of reducing harm. We accept this evidence and support minimum unit pricing.[2]

 

3. Unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi'r darpariaethau hyn ar waith ac unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil.

3.1 Materion trawsffiniol. Fe ymddengys i ni yn anochel y bydd cyflwyno isafbris ar gyfer uned o alcohol yng Nghymru heb gyflwyno mesur cyfatebol yn Lloegr yn golygu y bydd peth gwerthiant yn trosglwyddo i fannau alldrwyddedig ar ochr Lloegr i’r ffin (yn yr un modd ag y bu i Ddeddf 1881 gynyddu nifer cwsmeriaid y tafarndai ar ochr ‘wlyb’ y ffiniau sirol ar y Sul). Nodwn asesiad Llywodraeth Cymru mai bach fydd yr effaith hon, gan y bydd cost cyrraedd y mannau hyn yn uwch ymron pob achos na’r arbedion a wneir, ond rydym yn ymwybodol fod rhai siopau bychain mewn pentrefi ar ochr Gymreig y ffin yn gofidio colli gwerthiant a hyd yn oed hyfywdra. Byddem yn sicr yn gresynu at golli cyfleusterau o’r fath sy’n bwysig i’w cymunedau, ond gobeithiwn y bydd yr amser hir a dreuliwyd yn paratoi at y ddeddfwriaeth hon, a’r posibilrwydd y daw deddf debyg yn Lloegr, yn golygu y gall y busnesau hyn gynllunio i amrywio’u patrwm gwerthiant er mwyn lleihau’r effaith arnynt.

3.2 Gwerthiant trwy’r rhyngrwyd a’r post. Tra bod y ddeddfwriaeth yn ceisio ymdrin ag archebion a wneir drwy’r we a’r ffôn (Memorandwm Esboniadol para 286), ein dealltwriaeth yw y bydd y ddeddfwriaeth yn weithredol dim ond pan fo’r cyflenwr a’r prynwr ill dau wedi eu lleoli yng Nghymru. Mae hyn yn debygol o drosglwyddo peth gwerthiant i gyflenwyr wedi eu trwyddedu y tu allan i Gymru fydd wedyn gallu danfon nwyddau at bobl yng Nghymru. Yn wahanol i werthiant trawsffiniol lle bo angen i’r cwsmer deithio (3.1), ni fydd yna o reidrwydd unrhyw gost ychwanegol i’r cwsmer yng Nghymru wrth brynu alcohol rhad o ffynonellau o’r fath. Fe all y bydd costau gweinyddol ychwanegol i fusnesau o’r fath a drwyddedir yng Nghymru wrth orfod defnyddio dwy drefn brisio wahanol, yn dibynnu ar leoliad y cwsmer. Deallwn fod grymoedd y Cynulliad Cenedlaethol yn gyfyngedig yn hyn o beth, ond byddem am annog y Cynulliad i fod yn ddyfeisgar i weld a ellir tynhau’r ddeddfwriaeth o ran y mater hwn.

3.3 Mae rhai aelodau o’n heglwysi wedi mynegi gofid y bydd effaith atchweliadol i’r mesur hwn, h.y. yr effeithir yn fwy ar yfwyr tlotach o ran cyfran o’u hincwm/cyfoeth nag ar yfwyr cyfoethocach. Mae eglwysi wedi bod yn ofidus am effaith trethiant atchweliadol (megis treth alcohol a TAW) ond fe fuom ar y cyfan yn fwy bodlon derbyn trefniadau prisio atchweliadol. Er enghraifft, rydym yn gefnogol i’r tâl 5c am fag plastig ac yn hybu’r mudiad Masnach Deg, sy’n codi prisiau er mwyn codi incwm cynhyrchwyr. Mae nifer o’n haelod eglwysi felly yn cefnogi’r Cyflog Byw go iawn, sy’n galluogi’r sawl sy’n ei derbyn i wneud dewisiadau gwybodus wrth brynu yn hytrach na gorfod prynu’r nwyddau rhataf bob tro.

3.4 Nodwn hefyd y gwrth-ddadl i 3.3 a gyflwynir gan ein haelod, Byddin yr Iachawdwriaeth, yn ei hymateb (adran 2):
However, through our work with those who are most marginalised and excluded from society, we also know that it is these groups who are most disproportionately affected by alcohol misuse. Indeed, ..., according to the Welsh Index of Deprivation (WIMD), those from the most deprived communities are much more likely to be admitted to hospital, or die, as a result of harmful drinking than their better off counterparts. We therefore welcome any intervention that makes a significant difference to the health of a population group which has been difficult to engage in recent years and who, with the introduction of MUP, would have the most health benefits to gain.
Nodwn fod ffigurau 5 a 6 ym Memorandwm Esboniadol y Llywodraeth yn ategu’r farn hon.

 

4. Goblygiadau ariannol y Bil

4.1 Nodwn y datgenir yn Rhan 2 y Memorandwm Esboniadol y bydd costau i Lywodraeth Cymru a chost gorfodi gan Lywdraeth Leol yn gymharol isel. Dylai fod peth arbedion yn y tymor hwy os y gostyngir yfed niweidiol ar alcohol, er y bydd rhain yn anodd eu mesur, ac yn elwa cyllidebau gwahanol i’r rhai a ddefnyddir i dalu costau’r Ddeddf. 

4.2 Byddem am bwysleisio y dylid, mewn cyfnod o gynni ariannol, gwneud pob ymdrech i beidio â chwrdd â’r costau ychwanegol trwy gwtogi ar gamau eraill sydd hefyd yn lliniaru yfed niweidiol ar alcohol – e.e. ni ddylai awdurdodau lleol ganfod yr adnoddau i orfodi’r ddeddfwriaeth newydd drwy leihau’r adnoddau a werir ar reoleiddio mangreoedd trwyddedig eraill neu lleihau eu hymrwymiad i’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol (gw. para 2.2).

4.3 Yn unol â thystiolaeth lafar Byddin yr Iachawdwriaeth ar Ragfyr 13, byddem felly am bwyso am fuddsoddi parhaus gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol o ran addysg gyhoeddus am alcohol a sylweddau niweidiol eraill, a phwysigrwydd y dewisiadau a wneir gan, yn enwedig, pobl ifainc. Dylai rhaglenni adfer ar gyfer y sawl sy’n ddibynnol ar alcohol parhau i fod yn gwbl hygyrch i bawb, waeth beth fo’u hincwm. Mae camddefnyddio alcohol yn gysylltiedig â materion creiddiol megis tlodi ac addysg wael, felly bydd strategaethau megis Ffyniant i Bawb a chadw at egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn chwarae rhan hanfodol wrth ymgyrraedd â nodau gosod isafbris ar gyfer alcohol yng Nghymru.

 

5.   Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth

5.1 Cefnogwn ddirprwyo’r gryn i Weinidogion Cymru osod yr isafbris fesul uned yn hytrach na’i gyflwyno ar wyneb y Bil, fel y gellir ystyried effaith chwyddiant a phrofiad gweithredu’r isafbris yng Nghymru a thiriogaethau eraill (yn enwedig yr Alban) heb orfod newid y Ddeddf.

5.2 Ystyriwn fod y pwerau dirprwyedig eraill yn briodol.

15fed Rhagfyr 2017.

Parch./Revd Gethin Rhys

Swyddog Polisi’r Cynulliad Cenedlaethol / National Assembly Policy Officer

Cytun - Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales

58 Richmond Road, Caerdydd/Cardiff, CF24 3AT

Tel: XXXXXXXXXXXXX. Mudol/mobile: XXXXXXXXXXXXX

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr | Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” | Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 | Cytûn is a registered company in England and Wales | Number: 05853982 | Registered name: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” | Cytûn is a registered charity | Number: 1117071



[1] http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/safety/substancemisuse/availability/night/?skip=1&lang=cy

[2] http://qaad.org/public-issues-alcohol-2/ accessed 13.12.17